Croeso
Mae yna gyndnabyddiaeth helaeth mae Gŵyl Cefn Gwlad Cymru yw uchafbwynt y calendr chwaraeon cefn gwlad, yn denu miloedd o ymwelwyr syn cynnwys selogion cŵn adara, posgotwyr, saethwyr colomenod clai, dilynwyr cŵn hela ac wrth gwrs selogion cŵn potsian a daeargwn.

Cynhelir y digwyddiad ar un o’r safleoedd mwyaf golygfaol bendigedig i ŵyl yn y wlad, gyda’r Afon Tywi, sy’n enwog am ei brithyll a’i eog yn cynnig ffin derfyn naturiol ar yr ochr orllewinol.

Mae’r brif arena wedi bod bob amser yn un o'r prif uchafbwyntiau yn cynnwys cyflwyniadau ac arddangosfeydd anhygoel, a fydd yn ymddangos ei sgiliau syfrdanol fydd Jason Smith, cyn-yrrwr pencampwriaeth byd motocros yr ‘Adrenaline Team’. Unwaith eto bydd y ‘Red Devil’ Parachute Display’ yn disgyn i'r arena yn 2010. Bydd llawer o’r hen ffefrynnau yn ymddangos wrth gwrs, gan gynnwys Terry Large, yr hebogydd enwog, Meirion Owen a’i’ Quack Pack Machine’ a Chris, y gwr cefn gwlad Green. Mewn ymateb i’r farn boblogaidd yn 2010, cynhelir yr arddangosfa helwriaeth ddynwaredol ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul yn y brif arena, lle anogir pobl a chwn i gymryd rhan yn y digwyddiad poblogaidd hwn yn yr arena.
Ar y maes o amgylch y Brif Arena mae 'na gystadlaethau ac atyniadau diri yn cynnig cyfle i bob aelod o’r teulu gymryd rhan ynddynt. Ar y Sadwrn, i’r gogledd o’r safle bydd y Sioe Cŵn Hela eleni yn denu y cynulliad mwyaf niferus o gwnhela yn y wlad.
Ar y Sul am 12.30 o’r gloch bydd y Sioe Daeargwn a Chwn Potsiwr yn gorlifo o gystadleuwyr yn y Sioe a noddir gan ‘The Countryman’s Weekly’. Yn dilyn y sioe cynhelir Ras y Daeargwn a’r Cŵn Potsiwr ar y trac rasio ger cylchoedd y sioe.
Mae’r gystadleuaeth sgrialu, sy’n derbyn nawdd caredig ‘Gelert Country Choice’ a ‘Jane Robinson Animal Portraits’ i’w chynnal ar dorlan yr Afon Tywi yn agored i bob aelod o’r cyhoedd ac unrhyw rywogaeth o gi. Mae’r gwobrau’n cynnwys darlun anifail sy’n argraffiad cyfyngedig a bwyd cwn. Gwneir cais am gystadlu ar y dydd, yn cynnwys adennill sych a gwlyb. Bydd saethyddiaeth, awyrddrylliau, maes tanio drylliau reiffl, twr dringo, beiciau modur bychain, ffair a chwtsh anifeiliaid anwes yn cael lle blaenllaw hefyd yn yr Wyl Cefn Gwlad, felly gwneud yn siwr o fod yno ar 19eg ar 20 o Fehefin.
Mae’r ŵyl ar agor o 10 o’r gloch y bore a’r digwyddiadau yn y brif arena’n cychwyn am 11 y bore ac yn rhedeg yn ddidor tan 5 y prynhawn ar y ddau ddydd. Mae croeso i chwi ddod a’ch cwn ond rhaid eu cadw ar dennyn.
Pris Mynediad; Oedolion £10, Henoed £7, Plant 5-16 blwydd oed £5, (plant dan 5 oed- am ddim). Mae’r tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn o dan 16 blwydd oed) hefyd ar gael am £25.









